Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


02 Cefnffen Christchurch/yr As Fach/Whitson


02 ardal gymeriad cefnffen Christchurch/yr As Fach/Whitson: cefnffen isel sydd â thirwedd "ganolradd" symlach. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 042)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Roedd y broses wreiddiol o gau a draenio'r ardal gan ddefnyddio ffosydd a chloddiau wedi dechrau erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n debyg bod ffiniau caeau unigol yn dyddio o gyfnod diweddarach (ôl-ganoloesol?).

Ychydig iawn o dystiolaeth ddogfennol sydd gennym cyn canol yr ail ganrif ar bymtheg, pan ddisgrifiwyd yr ardal a'i system ddraenio yn dra manwl mewn arolwg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Nodweddion draenio wedi'u cadw mewn cyflwr da (ffosydd draenio, cloddiau, ffosydd agored), patrwm unionlin o gaeau wedi'u trefnu mewn lleiniau, nifer fach iawn o aneddiadau, ffyrdd syth, heb wastraff, â helyg wedi'u tocio ar hyd-ddynt, sy'n rhoi naws "gwlyptir" gryf

Ardal o gefnffen isel. Ymestynnai i ymyl y ffen ar un adeg ond erbyn hyn mae'r Gwaith Dur i'r gogledd a Green Moor (ardal 9) i'r dwyrain yn ffin i'r ardal sydd wedi goroesi. I'r de ac i'r gorllewin mae Whitson (ardal 4) ac ardal 1.

Gellir rhannu'r patrwm unionlin o ffiniau caeau yn lleiniau bach, wedi'u diffinio gan brif ffosydd a hen gloddiau mawr sy'n cynrychioli darnau unigol o dir a adferwyd. At ei gilydd mae'r ffyrdd yn syth a heb wastraff.

Roedd ystod unigryw o nodweddion tirwedd eraill. Ar yr ardaloedd is yn agos at ymyl y ffen roedd cyfres o diroedd comin. Fe'u dinistriwyd gan y Gwaith Dur, ynghyd â dau bwll rhwydo hwyaid a'r unig ddwy fferm yn yr ardal gymeriad hon. Ceir sawl rhes ardderchog o goed wedi'u tocio.

Arferai'r ardal hon gynrychioli math cyffredin o dirwedd ar y Gwastadeddau, ac ymestynnai dros lawer o'r gefnffen. Fe'i nodweddir gan batrwm unionlin eithaf cydryw wedi'i drefnu mewn lleiniau o sawl dwsin o gaeau, heb fawr ddim anheddu. Mae'r ffyrdd yn syth, heb wastraff ac ar hyd-ddynt y mae helyg wedi'u tocio, sy'n rhoi naws "gwlyptir" gryf.

Mae Monksditch wedi'i chadw mewn cyflwr arbennig o dda, am fod iddi wyneb o gerrig mewn mannau. Gyda'r ffos lefel is i'r gorllewin, pont fwaog Whitson, a gafaelion sydd wedi'u cadw mewn cyflwr da yn y caeau oddi amgylch, mae i'r ardal o amgylch yr is-orsaf werth grwp uchel.

Mae dulliau rheoli gwrychoedd yn amrywio. Ceir cymysgedd o wrychoedd wedi'u torri'n dda a gwrychoedd prysglog, a nifer fawr o goed aeddfed o amgylch is-orsaf drydan Whitson.

Amharwyd ar gyfanrwydd a chydlyniant yr ardal, er bod effaith y Gwaith Dur yn cael ei leihau gan goed.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk